![]() |
![]() |
Bwyta’n Iach yn rhoi holl gyngor bwyd y llywodraethDydd Mawrth, 9 Mawrth 2010Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn mynd i ehangu ei gwefan bwyta’n iach i ddod â holl wybodaeth y llywodraeth am fwyd sydd wedi ei anelu at gwsmeriaid, ynghyd.
Caiff cyngor am ddiogelwch bwyd a bwyta’n iach ei integreiddio gyda gwybodaeth am ystod eang o destunau eraill sy’n berthnasol i ddewisiadau bwyd defnyddwyr, gan ganolbwyntio’n benodol ar faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd. Bydd yr ASB yn gweithio’n agos gydag adrannau a chyrff eraill y llywodraeth dros y flwyddyn nesaf i gasglu gwybodaeth ddiweddar a’r bwriad yw lansio’r wefan ar ei newydd wedd yn ystod Gwanwyn 2011. Yn wreiddiol, nodwyd yr angen am y wefan hon yn adroddiad ‘Bwyd o Bwys’ Swyddfa’r Cabinet Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2008. Amlygodd 'Bwyd o Bwys' y angen i’r llywodraeth ddefnyddio ymagwedd mwy cydlynus, nid yn unig wrth ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr, ond ar gyfer polisi bwyd yn gyffredinol. Mae’r angen i fynd i’r afael â’r heriau iechyd, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn y system fwyd mewn ffordd integredig yn ymagwedd sy’n cael ei atgyfnerthu gan strategaeth ddiweddar Bwyd 2030. Ffynhonnell: Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru |
|