![]() |
![]() |
Cyhoeddi Arolwg Cenedlaethol Deiet a MaethDydd Mawrth, 9 Mawrth 2010Mae canlyniadau o flwyddyn gyntaf Arolwg Cenedlaethol newydd Deiet a Maeth (NDNS) yn awgrymu bod poblogaeth y DU yn bwyta llai o fraster dirlawn, llai o draws-frasterau a llai o siwgr wedi ei ychwanegu nag yr oedd 10 mlynedd yn ôl.
Mae meintiau braster dirlawn y mae oedolion yn eu bwyta wedi gostwng ychydig i 12.8% o’r egni bwyd, o’i gymharu â 13.3% yn 2000/01, ac mae dynion a phlant yn bwyta llai o siwgr wedi ei ychwanegu. Mae meintiau’r traws-frasterau y mae’r boblogaeth yn eu bwyta wedi disgyn ychydig hefyd ac mae bellach yn 0.8% o egni bwyd, sydd o fewn y lefelau a argymhellir. Ac, ar gyfartaledd, mae oedolion yn bwyta 4.4 darn o ffrwythau a llysiau y dydd gyda thros draean o ddynion a menywod bellach yn bodloni’r canllaw ‘5 y dydd’. Fodd bynnag, er gwaetha’r arwyddion calonogol hyn, mae meintiau braster dirlawn yn dal yn uwch na’r lefel a argymhellir, sef 11% o egni bwyd, ac ar 12.5%, mae meintiau’r siwgr wedi ei ychwanegu yn dal uwchlaw’r 11% a argymhellir. Dengys ymchwil bod darlun cyffredinol deiet a maeth poblogaeth y DU yn weddol debyg i arolygon blaenorol yn y gyfres NDNS a gynhaliwyd rhwng 1992 a 2001, er bod awgrymiadau o newidiadau cadarnhaol. Ond yn bwysig iawn, nid yw’r canfyddiadau’n nodi unrhyw broblemau newydd neu rai sy’n dod i’r amlwg yn ymwneud â maeth ymysg y boblogaeth yn gyffredinol. Mae canfyddiadau eraill yn cynnwys: • Nid yw pobl yn bwyta digon o ffibr o hyd, sydd yn hanfodol ar gyfer treulio iach. Y meintiau presennol sy’n cael eu bwyta ar gyfartaledd yw 14g y dydd ar gyfer oedolion, sydd lawer yn llai na’r 18g a argymhellir. • Mae maint y pysgod olewog, prif ffynhonnell asidau brasterog buddiol omega 3, sy’n cael eu bwyta, yn dal yn isel. Mae oedolion a phlant yn bwyta llawer llai na’r un darn yr wythnos a argymhellir. • Mae maint yr haearn sy’n cael ei fwyta ymysg merched 11 i 18 oed a menywod yn dal yn isel mewn llawer o achosion – gall hyn arwain at ddiffyg haearn ac anaemia. Fodd bynnag, mae meintiau’r fitaminau a mwynau y mae’r boblogaeth yn eu bwyta yn gyffredinol wedi gwella ychydig. Dywedodd Gill Fine, Cyfarwyddwr Dewis Defnyddwyr ac Iechyd Deietegol yn yr ASB: ‘Mae canlyniadau blwyddyn gyntaf ein rhaglen dreigl NDNS newydd yn rhoi cipolwg diddorol i ni ar ddeiet y genedl, a bydd yn ein galluogi i olrhain tueddiadau sy’n dod i’r amlwg dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y dystiolaeth hon ac o arolygon pellach yn ein helpu ni ac adrannau eraill y llywodraeth i ffurfio polisi i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi cael eu codi. ‘Mae’n newyddion da bod yr arolwg yn awgrymu bod tua thraean y boblogaeth yn bwyta pum darn o ffrwythau a llysiau y dydd ac mae’n galonogol bod y canfyddiadau cychwynnol hyn yn awgrymu bod ychydig yn llai o fraster dirlawn a siwgr wedi ei ychwanegu yn cael eu bwyta nag oedd mewn arolygon blaenorol. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod ffordd bell i fynd cyn y byddwn yn bodloni holl argymhellion deietegol y Llywodraeth. ‘Mae maeth da yn bwysig i iechyd am mae deiet gwael yn rhoi cyfrif am ganran mawr o farwolaethau cyn pryd. Mae angen i ni nawr adeiladu ar yr arwyddion o newid cadarnhaol yr ydym wedi eu gweld yn yr arolwg hwn. Trwy barhau â’n rhaglen o waith ymgyrchu ac annog ailffurfio cynnyrch mewn meysydd allweddol fel braster dirlawn, gobeithio y gallwn weld gwelliannau pellach dros ychydig flynyddoedd nesaf y rhaglen.’ Am fwy o wybodaeth ewch i www.food.gov.uk/science/dietarysurveys/ndnsdocuments. Ffynhonnell: Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru |
|