![]() |
![]() |
Lansio Newid am Oes yng NghymruDydd Iau, 11 Mawrth 2010Mudiad cymdeithasol newydd i annog pawb i ddatblygu arferion iachach.
Bydd ymgyrch hysbysebu uchelgeisiol newydd a fydd yn helpu teuluoedd i fwyta'n iach, symud mwy a byw'n hirach yn bwrw sgriniau teledu, hysbysfyrddau, trafnidiaeth gyhoeddus a phapurau newydd ym mis Mawrth 2010. Nod yr ymgyrch yw galluogi pob teulu i ddechrau chwyldroi ei ffordd o fyw er mwyn atal gordewdra rhag cynyddu. Mewn ymdrech i wella iechyd teuluoedd ifanc, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lansio Newid am Oes yng Nghymru ac yn herio pobl i fod yn fwy egnïol a datblygu arferion bwyta iachach. Mae'r ymrwymiad newydd hwn sy'n hybu iechyd y cyhoedd wedi'i lansio heddiw (10 Mawrth) gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, yng Nghaeau Llandaf, Caerdydd, gyda chymorth 'Cadw'n Heini gyda'ch Plentyn', dosbarth gweithgarwch corfforol i rieni sydd â babanod. Bob wythnos, mae rhieni'n cyfarfod i gerdded o amgylch y caeau gyda'u plant mewn cadeiriau gwthio. Mae hyn yn golygu bod mamau a thadau'n gallu cadw'n heini heb orfod poeni am ofal plant. Meddai'r Gweinidog dros Dreftadaeth: "Fe all newidiadau bach i'n ffordd o fyw wella ein hiechyd, ein helpu i fyw'n hirach a gosod esiampl dda i'n plant. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lansio'r ymgyrch hon i roi cyngor a chymorth ymarferol i deuluoedd ledled Cymru ynghylch sut gallan nhw wneud dewisiadau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd eu plant. "Rydyn ni hefyd am i unrhyw sefydliadau sy'n delio â theuluoedd gymryd rhan a hyrwyddo Newid am Oes er mwyn i deuluoedd gael cyngor syml a chyson ynghylch bwyta'n iach ac ymarfer corff. Rydyn ni am ddechrau chwyldroi ffordd pobl o fyw a chreu Cymru iachach a hapusach," ychwanegodd.
Esboniodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Tony Jewell, yn fanylach sut y bydd yr ymgyrch yn gweithio: "Rydyn ni'n gofyn i deuluoedd gwblhau holiadur syml er mwyn rhoi gwybod i ni am eu harferion bwyta a chadw'n heini. Yna, bydd rhieni'n derbyn cynlluniau gweithredu am ddim, a fydd wedi'u teilwra iddyn nhw'n bersonol ac a fydd yn llawn syniadau, cyngor a chymorth er mwyn eu hannog nhw a'u plant i wneud mwy i gadw'n heini a bwyta'n iachach. Unwaith y bydd teulu wedi'i gofrestru ar gyfer ei gynllun unigryw, caiff mwy o wybodaeth a chyngor eu hanfon atyn nhw yn rheolaidd i'w helpu i barhau â'r ffordd iachach hon o fyw." Er mwyn cofrestru a chael y cynllun gweithredu wedi'i deilwra, dylai rhieni aros am yr holiadur sy'n cael ei ddosbarthu i blant ysgolion cynradd yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. Gallan nhw hefyd gael holiadur drwy ffonio'r ganolfan gyswllt Newid am Oes ar 0800 100 900 neu gallan nhw ei gwblhau ar-lein ar wefan Newid am Oes. Mae Newid am Oes hefyd yn gofyn i unrhyw sefydliad sy'n dod i gysylltiad â theuluoedd gofrestru a chefnogi'r ymgyrch newydd hon. Pan fyddan nhw'n gwneud hynny, bydd deunyddiau, logos a brandio ar gael iddyn nhw a fydd yn eu helpu i siarad â theuluoedd am fwyta a lefelau gweithgarwch. Byddan nhw hefyd yn cael syniadau a chymorth o ran sut i helpu teuluoedd i fod yn fwy iach. Eto, gall sefydliadau gofrestru drwy fynd i wefan Newid am Oes neu drwy ffonio'r ganolfan gyswllt Newid am Oes. Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn cefnogi'r ymgyrch a dywedodd ei Gadeirydd, Laura McAllister: "Mae Newid am Oes yn ein helpu i gyrraedd ein nod i annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Bydd hefyd yn helpu i wireddu ein gweledigaeth fwy uchelgeisiol i annog pob plentyn yng Nghymru i fwynhau chwaraeon am byth. Trwy ein cynllun 5x60 sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, mae llawer mwy o bobl ifanc eisoes yn dechrau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau newydd, sy'n cyfrannu'n fawr at yr awr o weithgarwch corfforol y mae wedi'i argymell y dylen nhw ei wneud bum gwaith yr wythnos. "Rydyn ni'n gobeithio y bydd Newid am Oes yn annog hyd yn oed mwy o bobl ifanc i fod yn egnïol, ac y bydd ar yr un pryd yn annog rhieni a'r teulu ehangach i gymryd rhan hefyd. Fe all chwaraeon wneud gwahaniaeth enfawr i les corfforol a meddyliol pobl – beth bynnag yw'ch oedran neu'ch gallu chi. Byddai hyn yn gwneud llawer o les i iechyd ac yn cael effaith sylweddol ar ofal iechyd ataliol." Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn croesawu'r ymgyrch hon. Meddai Dr Sarah Rowles o'r Asiantaeth: "Rydyn ni'n cefnogi'r cynllun Newid am Oes i'r carn – cynllun a fydd yn helpu teuluoedd yng Nghymru i fod yn egnïol a bwyta'n iach, a hefyd yn bwysig iawn, i fwyta digon o fwyd ar gyfer eu lefelau gweithgarwch. Bydd Newid am Oes yn helpu rhieni drwy roi cyngor ymarferol iddyn nhw wneud eu ffordd o fyw yn fwy iach, gan eu helpu i ddiogelu eu plant yn y dyfodol rhag clefydau sy'n gysylltiedig â'r deiet ac y mae modd eu hatal, fel canser, clefyd y galon a diabetes math 2." Ffynhonnell: Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru |
|