Physical Activity and Nutrition Networks Wales Physical Activity and Nutrition Networks Wales
Sgipio mordwyaeth
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English
 

Nodyn Atgoffa am y Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno



A ydych chi wedi cyflwyno prosiect yn canolbwyntio ar weithgaredd corfforol mewn gofal sylfaenol neu gyda phroffesiynolion gofal sylfaenol?

Am y ddwy flynedd diwethaf mae’r BHFNC wedi bod yn casglu gwybodaeth am ystod eang o ymyriadau gweithgaredd corfforol sy’n cael eu cynnal ar draws y DU. Cyhoeddir y wybodaeth hon yn flynyddol o fewn Llyfrynnau Rhannu Ymarfer BHFNC. Nod y llyfrynnau hyn yw:

• Annog rhannu ymarfer ac atebion ymysg proffesiynolion gweithgaredd corfforol ac iechyd; a
• Chynyddu ymwybyddiaeth o ystod yr ymyriadau sydd yn digwydd ar draws y DU.

Eleni mae’r BHFNC eisiau casglu gwybodaeth am brosiectau a gyflwynir gan neu mewn partneriaeth â phroffesiynolion gofal sylfaenol. Mae gan y BHFNC ddiddordeb arbennig yn yr argymhellion y byddech chi’n eu gwneud i broffesiynolion sydd yn dechrau prosiectau tebyg.

Bydd pob prosiect perthnasol a gyflwynir yn cael ei gynnwys yn y llyfryn ‘Rhannu Ymarfer: Codi proffil gweithgaredd corfforol mewn gofal sylfaenol', a gaiff ei ddosbarthu i dros 300 o gynadleddwyr yn 10fed Cynhadledd Flynyddol BHFNC a bydd ar gael i’w lawrlwytho ar wefan BHFNC o fis Tachwedd 2010. Yn ogystal, bydd nifer ddethol o gyflwyniadau hefyd yn cael cyfle rhagorol i arddangos eu gwaith ym mharth astudiaeth achos 10fed Cynhadledd Flynyddol BHFNC ar ddydd Mawrth 23 Tachwedd 2010.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: Dydd Gwener 30 Gorffennaf, 5pm

Cliciwch yma i gyflwyno eich prosiect ar-lein. Neu cyflwynwch eich prosiect gan ddefnyddio ein templed a’i ddychwelyd dros yr ebost i bhfnc@lboro.ac.uk. Efallai y byddai’r dull hwn yn well os ydych eisiau cwblhau’r cyflwyniad dros sawl diwrnod, am na ellir arbed y cyflwyniad a’i ddychwelyd yn ddiweddarach wrth ddefnyddio’r dull ar-lein.

Ffynhonnell: Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru