![]() |
![]() |
Croesawu’r Heriau – Digwyddiad Newid CyflyrauDydd Iau, 29 Gorffennaf 2010Cynhelir cynhadledd ryngwladol ar reoli cyflyrau cronig; ataliaeth, cyflwyno ac atebion cynaliadwy ar gyfer ychwanegu byw at fywyd yng Nghaerdydd ar 10 - 11 Tachwedd.
Bydd diwrnod 1 yn canolbwyntio ar fodelau a safbwyntiau rhyngwladol a bydd diwrnod 2 yn canolbwyntio ar drosi polisi ac ymarfer. Gwahoddir crynodebau yn y categorïau canlynol: • Gwella ffyrdd o fyw iach a lles yn y gymuned • Atal neu ohirio dechreuad cyflyrau cronig • Gwella ansawdd bywyd ar gyfer pobl sydd yn byw gyda chyflyrau cronig • Lleihau effaith cyflyrau cronig ar ofal eilaidd a chartrefi gofal • Cynyddu hunan-reolaeth, annibyniaeth a chyfranogiad pobl â chyflyrau cronig a’u gofalwyr • Gwella ansawdd gofal cleifion yn agosach i gartref • Gwella rhagnodi a rheoli meddyginiaethau • Lleihau anghydraddoldebau iechyd ac anweithgarwch economaidd Bydd y crynodebau’n cael eu dethol ar gyfer arddangosiadau poster neu gyflwyniadau. Bydd yr holl ymgeiswyr a ddewisir i roi cyflwyniad yn y sesiynau grŵp yn cael lle am ddim yn y gynhadledd. Caiff posteri eu harddangos yn ystod y gynhadledd. Bydd gwobr am y poster gorau. Dylid cyflwyno’r crynodebau gan ddefnyddio’r templed sydd ynghlwm erbyn 8 Medi 2010. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: sue.roberts@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01443 233 375. Lawrlwytho’r Llythyr ar gyfer Crynodebau (Saesneg yn unig) Lawrlwytho Rhaglen y Gynhadledd (Saesneg yn unig) Lawrlwytho’r Ffurflen Archebu (Saesneg yn unig) Ffynhonnell: Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru |
|