Physical Activity and Nutrition Networks Wales Physical Activity and Nutrition Networks Wales
Sgipio mordwyaeth
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English
 

Rhwydwaith Maeth Cymru

Mae deiet gwael yn un o brif achosion afiachusrwydd a marwolaeth. Yn y DU credir bod tua thraean y marwolaethau o ganlyniad i glefyd y galon a thua chwarter y marwolaethau o ganser yn deillio o ddeiet gwael.

Clawr Bwyd a Lles Yn 2003, yn dilyn ymgynghoriad eang, lansiwyd Bwyd a Lles: Lleihau Anghydraddoldebau trwy Strategaeth Faethiad i Gymru. Roedd y strategaeth yn amlinellu’r camau yr oedd angen i sefydliadau ac unigolion allweddol eu cymryd i wella deiet pobl Cymru. Mae’r strategaeth yn gwneud naw argymhelliad, ynghyd â chyfres o gamau y mae angen i gyrff ac unigolion allweddol eu cyflawni. Roedd creu Rhwydwaith Maeth Cymru yn gam allweddol a nodwyd yn argymhelliad pump: “darparu gwybodaeth a hyfforddiant i gyrff ac unigolion allweddol gan gynnwys llunwyr polisïau, gweithwyr proffesiynol a phobl broffesiynol eraill i fynd i’r afael â maeth gwael yng Nghymru.”

Yn 2004 comisiynwyd Canolfan Iechyd Cymru gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i gynnal ymgynghoriad i bennu beth oedd rhanddeiliaid ei angen oddi wrth y rhwydwaith o ran ei gwmpas, ei bwrpas, ei strwythur a’i hunaniaeth. Yn 2005 comisiynwyd Canolfan Iechyd Cymru gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i ddatblygu a sefydlu Rhwydwaith Maeth Cymru. Lansiwyd Rhwydwaith Maeth Cymru yn ffurfiol ym mis Mehefin 2006.

Mae Rhwydwaith Maeth Cymru yn anelu at gysylltu â’r holl unigolion, sefydliadau a sectorau sydd â rhan i’w chwarae yn y broses o wella deiet a maeth yng Nghymru a dod â hwy ynghyd. Mae partneriaid Rhwydwaith Maeth Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o’r byd academaidd, y gymuned, addysg, y Llywodraeth, gofal iechyd, diwydiant, llywodraeth leol, y cyfryngau, iechyd y cyhoedd a’r sector gwirfoddol. Mae Rhwydwaith Maeth Cymru yn cefnogi ei aelodau drwy ddarparu a gwella mynediad i wybodaeth ac wrth ddarparu fforwm i rannu gwybodaeth ac arferion da, gan alluogi partneriaid i ddysgu oddi wrth ei gilydd.

Yn 2007 unodd Rhwydwaith Maeth Cymru a Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru i greu cynghrair.


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 10/04/2008