![]() |
![]() |
Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol CymruYn 1999 estynnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru wahoddiad i Gyngor Chwaraeon Cymru gynnull Tasglu Byw’n Iach a Gweithgar i roi cyngor ar faterion trawsbynciol er mwyn cynyddu lefelau gweithgaredd corfforol yng Nghymru. Cynhyrchwyd cyfres o argymhellion ar ddiwedd 2001 ac yn dilyn ymgynghoriad cynhyrchwyd ‘Ffyrdd iach a gweithgar o fyw yng Nghymru: fframwaith ar gyfer gweithredu’. Mae hyn yn amlinellu rhaglen o gamau i annog poblogaeth Cymru, yn arbennig y boblogaeth fwy eisteddog, i fyw bywydau mwy gweithgar ac iach. Bydd Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru yn cysylltu ag unigolion a sefydliadau ar draws y sbectrwm cyfan o weithgaredd corfforol yng Nghymru, gan ddarparu cymorth a hwyluso gweithio mewn partneriaeth. Bydd y rhwydwaith hefyd yn hwyluso rhannu gwybodaeth ac egwyddorion arfer gorau, gyda’r nod o gynyddu faint o weithgaredd corfforol y mae pobl Cymru yn ei wneud. Yn 2005 comisiynwyd Canolfan Iechyd cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru Canolfan Iechyd Cymru i ddatblygu a sefydlu Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru. Lansiwyd Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru yn ffurfiol ym mis Hydref 2006. Yn 2007 unodd Rhwydwaith Maeth Cymru a Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru i greu cynghrair.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 10/04/2008 |
|
|