Amdanom Ni
Mae deiet cytbwys a lefelau addas o weithgaredd corfforol yn bwysig ar gyfer iechyd da. Maeth gwael a segurdod yw dau o brif achosion afiechyd yng Nghymru ac maent yn cyfrannu tuag at gyflyrau fel gordewdra, clefyd coronaidd y galon, diabetes math 2 a chanser. Mae effeithiau deiet a gweithgaredd corfforol ar iechyd yn aml yn gorfgyffwrdd; m
ae cydgysylltu ac integreiddio polisïau a rhaglenni maeth a gweithgaredd corfforol, lle bo hynny’n briodol, yn hanfodol felly.
Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru
Nod y Rhwydweithiau yw nodi, ymgysylltu a chefnogi unigolion a sefydliadau ar draws Cymru i wella iechyd pobl Cymru gyda’i gilydd trwy wella lefelau gweithgaredd corfforol a maeth pawb.
Mae’r Rhwydweithiau, a ariennir gan Llywodraeth Cymru, yn hwyluso partneriaeth, cydweithredu a rhyngweithio i uno’r holl unigolion a’r sefydliadau sy’n ymwneud â gwella gweithgaredd corfforol a maeth yng Nghymru.
Mae’n cynrychioli ystod eang o broffesiynolion o’r byd academaidd, addysg, y llywodraeth, iechyd, llywodraeth leol, y sector gwirfoddol, y sector preifat ac eraill sy’n gysylltiedig â gweithredu polisïau gweithgaredd corfforol a maeth cenedlaethol.
Maent yn rhoi cymorth ac yn hwyluso rhannu gwybodaeth ac egwyddorion arfer da. Caiff aelodau’r rhwydwaith eu hannog i ledaenu gwybodaeth trwy’r wefan a’r cylchlythyr fel y gellir hysbysu aelodau eraill am weithgareddau ar draws Cymru.
Datblygwyd y Rhwydweithiau gan Ganolfan Iechyd Cymru, sydd bellach yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydliad y GIG sy’n darparu cyngor sydd yn annibynnol yn broffesiynol a gwasanaethau iechyd y cyhoedd i ddiogelu a gwella iechyd a lles poblogaeth Cymru.
- Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bedair swyddogaeth statudol:
Darparu a rheoli ystod o wasanaethau iechyd y cyhoedd, diogelu iechyd, gwella gofal iechyd, cynghori ar iechyd, amddiffyn plant a gwasanaethau labordy microbiolegol a gwasanaethau’n ymwneud â gwyliadwraeth, atal a rheoli clefydau trosglwyddadwy; - Datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth am faterion yn ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru i’r cyhoedd; i gynnal a chomisiynu ymchwil i faterion o’r fath a chyfrannu at ddarparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o’r fath;
- Casglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth yn systematig am iechyd pobl Cymru yn arbennig yn cynnwys achosion o ganser, cyfraddau marwolaethau a goroesi; ac amlygrwydd anomaleddau cynhenid; a
- Darparu, rheoli, monitro, gwerthuso a gwneud ymchwil i sgrinio cyflyrau iechyd a sgrinio materion yn ymwneud ag iechyd.
Caiff y Rhwydweithiau eu cydlynu gan dîm bach, yn cynnwys Cydlynydd Rhwydwaith Maeth a Chydlynydd Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol, a reolir gan Brif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd ac a oruchwylir gan Fwrdd Cynghori.
Hanes
Yn 2007 ffurfiodd Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru a Rhwydwaith Maeth Cymru gynghrair. Roedd hyn i gydnabod y cyfeiriad strategol, yn benodol y Cynllun Gweithredu Bwyd a Ffitrwydd 5 Mlynedd: Hybu Bwyta’n Iach a Gweithgaredd Corfforol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru
(Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2006), a nododd:
“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn symud tuag at integreiddio polisïau a rhaglenni gweithgaredd corfforol a maeth lle y bo’n briodol. Mae hyn yn cydnabod y ffaith bod effeithiau deiet a gweithgaredd corfforol ar iechyd yn aml yn rhyngweithio, yn arbennig mewn perthynas â gordewdra.”
O’r dyddiad hwnnw, gweithiodd y Rhwydweithiau’n fwy agos ar faterion trawsbynciol. Cyfunwyd eu strwythurau rheoli gydag un Bwrdd Cynghori a chynllun gwaith blynyddol.
Yn ogystal, ar 1 Chwefror 2008, unwyd gwefannau Rhwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru a Rhwydwaith Maeth Cymru a’u gwella i ffurfio un gwefan unigol www.physicalactivityandnutritionwales.org.uk a cynhyrchwyd e-fwletin ar y cyd. Nod y gwefan yw cysylltu â’r holl unigolion, sefydliadau a sectorau sydd â rôl i’w chwarae mewn gwella maeth a lefelau gweithgaredd corfforol yng Nghymru a rhoi cymorth iddynt. Mae aelodau’r rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o’r byd academaidd, y gymuned, addysg, y Llywodraeth, gofal iechyd, diwydiant, llywodraeth leol, y cyfryngau, iechyd y cyhoedd a’r sector gwirfoddol. O’r wefan hon gellir cael mynediad i wybodaeth sy’n ymwneud â maeth a gweithgaredd corfforol a’i rhannu ag eraill. O’r wefan hon gellir cael mynediad i wybodaeth am y newyddion diweddaraf a digwyddiadau, ymchwil a gwerthuso, polisïau a strategaethau, grwpiau targedau, ymgyrchoedd, ffynonellau cyllid, datblygu’r gweithlu a llawer mwy.
Cafodd agweddau penodol ar alinio’r ddau rwydwaith eu hystyried yn y gwerthusiad a wnaed yn 2009. Canfu nad oedd y defnydd o’r rhwydwaith yn cael ei effeithio ar gyfer 57% o’r ymatebwyr ac roedd yn effaith cadarnhaol i eraill. I’r ymatebwyr cadarnhaol, roedd llawer o’r farn ei fod yn ddatblygiad calonogol bod gwybodaeth berthnasol bellach mewn un man, i rai aelodau roedd yn rhesymegol gan fod y gwaith yn gysylltiedig ac i eraill roedd yn gyfle i ddysgu am y sector arall a gwneud cysylltiadau â’u gwaith eu hunain.
Cymerwch gipolwg ar y wefan, ac os hoffech ddefnyddio’r wefan i rannu eich gwybodaeth ag eraill, yna e-bostiwch catherine.evans10@wales.nhs.uk
Cwblhewch y ffurflen gofrestru er mwyn dod yn un o bartneriaid cofrestredig Rhwydwaith Maeth Cymru a/neu Rwydwaith Gweithgaredd Corfforol Cymru.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha':
02/10/2012