![]() |
![]() |
Polisïau a strategaethauPolisi a strategaeth sy’n darparu’r cyfeiriad ar gyfer newidiadau. Gall y newidiadau hyn fod ar lefel leol, lefel genedlaethol, lefel Ewropeaidd neu lefel ryngwladol. Ar y dudalen hon gwelwch wybodaeth am bolisïau a strategaethau sy’n sbarduno newidiadau ym maes maeth a gweithgaredd corfforol yn lleol, yn genedlaethol, ar lefel Ewropeaidd ac yn fyd-eang. Mae pob ardal yn cynnwys dogfennau sy’n berthnasol i faeth a gweithgaredd corfforol, fel ardaloedd unigol ac yn rhan o’r agenda gyffredinol. Gellir cyrchu’r rhain yn hawdd gan ddefnyddio’r cysylltiadau o bob ardal. Mae strategaethau lleol yn benodol i Gymru a chânt eu trefnu yn ôl ardal awdurdod lleol. “Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn symud tuag at integreiddio’i pholisïau a’i rhaglenni maeth a gweithgaredd corfforol, lle mae hynny’n briodol, Mae hyn yn cydnabod y ffaith fod effeithiau deiet a gweithgaredd cofforol ar iechyd yn rhyngweithio yn aml, yn enwedig mewn perthynas â gordewdra.”
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 10/04/2008 |
|
|