Physical Activity and Nutrition Networks Wales Physical Activity and Nutrition Networks Wales
Sgipio mordwyaeth
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English
 

Ariannu

Mae denu arian, dod o hyd i arian a’i gynnal yn broblem gyffredin y mae sawl menter yn ei hwynebu wrth geisio sefydlu prosiect. Gall arian atodol hefyd fod yn broblem sylweddol i brosiectau sefydledig

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am ffynonellau cyllid sy’n cynnwys maeth a gweithgaredd corfforol a’r rhai sydd wedi eu hanelu at faeth neu at weithgaredd corfforol.

Mae’r wybodaeth yn cynnwys manylion cyswllt, beth sy’n cael ei ariannu a faint y gellir gwneud cais amdano.

Gall siarad â phrosiectau eraill sy’n rhedeg prosiectau tebyg mewn meysydd eraill fod o gymorth mawr, maent eisoes wedi bod drwy’r broses ac maent yn aml yn barod iawn i rannu eu profiadau. Ewch i gronfa ddata y mentrau bwyd cymunedol a chronfa ddata arferion addawol. Mae adran ar y dudalen hon lle y gall partneriaid rannu gwybodaeth am y cronfeydd y maent wedi eu defnyddio a’u profiadau.


Mae ffynonellau ariannu ar ffurf tabl cryno y gellir ei lawrlwytho yma

 


Porth Cyllid Trydydd Sector Cymru

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) wedi lansio adnodd ar-lein newydd a fydd yn helpu grwpiau gwirfoddol i gael mynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau cyllid.

Mae Porth Cyllid Trydydd Sector Cymru yn darparu cyngor a chyfleoedd cyllid a gellir cael mynediad iddo trwy ymweld â gwefan Cyllid Cynaliadwy Cymru CGGC.

Mae’r Porth cyllid yn rhoi mynediad i gronfa ddata y gellir ei chwilio o dros 4,000 o gyfleoedd cyllid, cyngor a chymorth yn y DU ar godi arian ac awgrymiadau ynghylch sut i arallgyfeirio cyllid. Mae’r porth cyllid yn adnodd newydd sbon ar gyfer sefydliadau trydydd sector yng Nghymru ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ceir manylion yr opsiynau ariannu a chyllid sydd ar gael i’r sector, yn cynnwys grantiau, rhoi, cyllid benthyciadau ac ennill incwm trwy gontractau a masnachu. Ceir hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar gyfleoedd cyllid a thendro ac o ble i gael mwy o gymorth a chefnogaeth.

Mae’r porth cyllid wedi ei gynllunio a’i ddatblygu gan dîm Cyllid Cynaliadwy Cymru (SFC) CGGC. Ariennir prosiect SFC gan y Loteri Fawr yng Nghymru ac mae wedi bod ar flaen y gad yn galluogi trydydd sector Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol ers bron tair blynedd. Mae SFC yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i’r sector i arallgyfeirio ei gymysgedd o gyllid a gweithio tuag at gynaliadwyedd ariannol hirdymor.

I gael mynediad i’r porth cyllid ewch i www.sustainablefundingcymru.org.uk.  


GwirVol a Gemau Stryd yn lansio grantiau chwaraeon

Caiff cynllun grantiau Gemau Stryd newydd GwirVol ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), a chaiff ei gefnogi gan Chwaraeon Cymru a Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Cafodd y cynllun ei lansio yn y Senedd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ddydd Mercher 26 Mai yng Ngwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Gemau Stryd y Co-operative 2010. Mae’r grantiau o hyd at £2,000 yr un wedi eu cynllunio i helpu i ddatblygu rhaglenni chwaraeon strwythuredig mewn cymunedau difreintiedig trwy gynnwys pobl ifanc rhwng 16-25 oed fel gwirfoddolwyr. Mae cyllid prosiect o hyd at £2,000 y prosiect ar gael. Am fwy o wybodaeth ac i ganfod sut i wneud cais am grantiau Gemau Stryd GwirVol, ewch i www.GwirVol.org neu cysylltwch â Caro Wild yn Gemau Stryd caro.wild@streetgames.org.  
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Lynne Reynolds ar 029 2043 1718, Jackie Huybs ar 01495 790212/ 07814 070239 neu Leah Doherty ar 029 2043 1763.


Cronfa Her Iechyd Gwaith a Lles

Mae’r Gronfa Her Iechyd Gwaith a Lles yn gynllun grant o £4miliwn sydd ar gael dros ddwy flynedd o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd yn ariannu prosiectau sydd yn gwella iechyd a lles gweithwyr yn y gwaith. Mae wedi ei anelu at bartneriaethau lleol a busnesau bach a chanolig eu maint wedi eu lleoli ym Mhrydain Fawr.

Gallwch wneud cais hyd at 31 Rhagfyr 2009 am ddyfarniad yn Ebrill 2010 hyd at fis Mawrth 2011 a rhwng Medi 2010 a Rhagfyr 2010 am ddyfarniad yn Ebrill 2011 hyd at Fawrth 2012. Ewch i’r fenter Gweithio dros Iechyd am fwy o fanylion.


Dewch i Gerdded Cymru

 
Menter Cymru Gyfan yw Dewch i Gerdded Cymru sy’n gyfrifol am gynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r awyr agored fel ffordd o wella iechyd a lles y boblogaeth.
 
Mae’r rhaglen grantiau Dewch i Gerdded yn rhoi cymorth i brosiectau sydd eisoes yn bodoli a phrosiectau newydd lle mae’r pwyslais ar ddatblygu clybiau a grwpiau cerdded yn y gymuned.  Dylai rhaglenni ganolbwyntio ar ddarparu grwpiau cymunedol, sefydliadau bach, gweithleoedd ac yn y blaen sydd â’r sgiliau a’r hyfforddiant i ddatblygu cyfleoedd cerdded yn eu hamgylchedd eu hunain.
Gall y canlynol wneud ceisiadau:
Mae 3 lefel o grant ar gael:
Lefel 1: £1,001-£5,000
Grŵp cymunedol, Cymunedau yn Gyntaf, sefydliadau gwirfoddol bach, grwpiau sy’n ymgysylltu â grwpiau targed penodol
 
Lefel 2: £5,001-£10,000
Ardaloedd cymunedol amryfal, grwpiau sy’n ymgysylltu â phartneriaid amryfal a grwpiau targed
 
Lefel 3: £10,001-£15,000
Awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol, sefydliad gwirfoddol mawr
 
I gael rhagor o wybodaeth, ffurflen gais a chanllawiau ewch i www.lets-walk-cymru.org.uk
I siarad ag Uwch Swyddog Rhanbarthol yn eich ardal i drafod eich syniadau, cysylltwch ag un o’r canlynol:
Rhanbarth y De Ddwyrain           08450 450904
Rhanbarth y De Orllewin            08450 450906
Rhanbarth y Gogledd                 08450 450908
 

Y Gronfa Loteri Fawr - Arian i Bawb

Cafodd fersiwn newydd o gynllun grantiau bach y Gronfa Loteri Fawr - Arian i Bawb ei lansio ar 1 Ebrill 2009.

Nod y rhaglen yw gwneud gwahaniaeth i gymunedau a bywydau’r rhai sydd fwyaf mewn angen a bydd yn canolbwyntio ar brosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol sydd o fudd i gymunedau lleol. Mae grantiau rhwng £500 a £5,000 ar gael.

Mae rhagor o wybodaeth a ffurflenni gais ar gael oddi wrth www.awardsforall.org.uk neu ffoniwch 08454 102030 am ymholiadau.  


Caiff yr adran hon ei diweddaru wrth i ffynonellau newydd ddod ar gael. Os ydych yn ymwybodol o adnoddau eraill nad ydynt yn y tabl cysylltwch â Thîm y Prosiect.


Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 14/07/2010