![]() |
![]() |
Canllawiau ac Adnoddau ar sefydlu a rhedeg Mentrau CymunedolCanllawiauMae Gwefan Food Vision yn cynnwys canllawiau i gynorthwyo gyda’r gwaith o sefydlu prosiect bwyd newydd. Mae’n cwmpasu cynllunio, gwerthuso, ariannu, mapio bwyd a gweithio mewn partneriaeth. Canllawiau Food Vision ar Gasglu Tystiolaeth Mae’r canllawiau hyn yn dangos sut i gynnal asesiad o angen ac mae’n cyfeirio at nifer o ffynonellau ystadegau, cenedlaethol a lleol, y gellir eu defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer prosiectau. Mae’r canllawiau hyn mewn tair rhan - ‘Making Links’ – Pecyn adnoddau ar gyfer Prosiectau Bwyd LleolCrëwyd y pecyn adnoddau gan Sustain er mwyn annog pobl i ddatblygu mentrau bwyd cymunedol. Mae’r pecyn offer yn addas ar gyfer prosiectau newydd a phrosiectau sefydledig sydd am ehangu, newid cyfeiriad, gwella eu systemau gwerthuso neu ganfod beth mae pobl eraill yn ei wneud. Thema allweddol drwy’r pecyn cyfan yw pwysigrwydd rhwydweithio. ‘Reaching the Parts... Community mapping: Working together to tackle social exclusion and food poverty’Mae’r adroddiad hwn yn dangos y broses o ddefnyddio mapio cymunedol a sut y caiff ei ariannu ac mae dulliau gwerthuso cyfranogol yn galluogi pobl leol i ddadansoddi eu heconomïau bwyd a gweithio gydag eraill i ddatblygu atebion cynaliadwy. Daw i ben gydag ystod o argymhellion sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd a chynyddu rheolaeth pobl dros eu cymunedau. ‘How to….A Guide to Community Food Activities’Yn aml iawn mae gan bobl syniadau gwych ynghylch beth yr hoffent ei wneud gyda bwyd yn eu cymuned, ond heb wybod sut i ddechrau arni. Mae ‘How to….A Guide to Community Food Activities’, a ddatblygwyd gan Gysylltiadau Bwyd Abertawe yn gyfres o ganllawiau i dyfu, prynu, coginio a bwyta, i helpu pobl i sefydlu eu gweithgareddau bwyd cymunedol eu hunain. Mae’r canllawiau’n hawdd i’w defnyddio, yn hwyliog ac yn lliwgar ac yn rhoi cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth eang o weithgareddau bwyd lleol yn cynnwys rhandiroedd, siopau bwyd cydweithredol, gweithgareddau coginio, caffis cymunedol a chlybiau coginio. Mae’r canllawiau hyn hefyd yn ffynhonnell gyfoethog o gysylltiadau cenedlaethol defnyddiol.
Pecyn Adnoddau Cymunedau Iach CeredigionMae Rhaglen Calon Iach Ceredigion wedi cyhoeddi canllaw ymarferol ar gyfer grwpiau cymunedol sydd am helpu eu haelodau i fyw bywyd iachach. Sefydlwyd Rhaglen Calon Iach Ceredigion yn 2002 gyda grant gan Gronfa Anghydraddoldebau Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y Pecyn Adnoddau Cymunedau Iach yw annog a chefnogi sefydliadau a grwpiau cymunedol i hybu ffyrdd iach o fyw drwy: Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Ceredigion yn darparu hyfforddiant i sefydliadau yn y gymuned er mwyn cefnogi’r pecyn offer hwn, sydd wedi’i anelu at ymwelwyr iechyd a’r gwasanaeth ieuenctid. Radar mynediad i fwydGellir defnyddio radar mynediad i fwyd Cyngor Cenedlaethol y Defnyddwyr fel offeryn i nodi cymunedau sy’n cael problemau wrth geisio cael mynediad i fwyd ac i flaenoriaethu adnoddau yn yr ardaloedd sy’n wynebu’r mwyaf o risg. Pecyn Mapio Bwyd Prifysgol CityMae’r pecyn hwn yn ganllaw i gynorthwyo gyda mapio ardal benodol i ddarganfod ac i ddangos y ddarpariaeth o fwyd iach. Fe’i datblygwyd yn dilyn gwaith ymchwil yn 2006 ac astudiaeth ar fynediad i fwyd ym Mwrdeistref Hackney yn Llundain. Bwyd ac Iechyd Cymunedol yr Alban – ‘A Taste for Independence Guide’Mae’r canllaw hwn yn ymchwilio i brofiadau 21 o sefydliadau ledled yr Alban sy’n gweithio gydag ystod o grwpiau sy’n agored i niwed drwy ddefnyddio gweithgareddau sy’n gysylltiedig â bwyd. Defnyddiodd y grwpiau hyn weithgareddau fel coginio, siopa bwyd a chyllidebu i helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau byw’n annibynnol. Yn ogystal â dysgu o’u gwaith a thrafod materion fel penderfynu beth i’w goginio neu sut i annog pobl i gyfrannu, mae deg astudiaeth achos hefyd. Bwyd ac Iechyd Cymunedol yr Alban – ‘Fruitful Participation’Mae Fruitful Participation yn canolbwyntio ar gynnwys y gymuned mewn materion sy’n ymwneud â bwyd ac iechyd. Dros y pedair blynedd diwethaf, mae Bwyd ac Iechyd (yr Alban), sef y Prosiect Deiet Cymunedol yr Alban gynt, wedi trefnu cwrs preswyl blynyddol pum diwrnod i’r rhai sy’n gweithio ym maes bwyd ac iechyd sydd am ddysgu mwy am ffyrdd cyfranogol o ymgysylltu â phobl. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu sut y defnyddiodd y rhai a fynychodd y cwrs ymagweddau a dulliau cyfranogol wrth gynllunio, gwerthuso a newid gwaith yn ymwneud â bwyd ac iechyd. Mae ‘Fruitful Participation’ yn amlinellu egwyddorion sylfaenol cyfranogiad a sut y mae cyfranogi mewn prosesau gwneud penderfyniadau wedi datblygu. Mae’n amlygu profiadau wrth ddefnyddio dulliau ac ymagweddau cyfranogol yn y gwaith ac yn y gymuned. Pecyn Adnoddau ‘Lightening the Load’Cyhoeddwyd ‘pecyn adnoddau’ ar-lein newydd i helpu cymunedau lleol, cynghorau a chyrff iechyd i ddarparu’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ei angen ar bobl sydd dros eu pwysau a phobl ordew gan Fforwm Cenedlaethol y Galon a’r Gyfadran Iechyd y Cyhoedd. Mae’r pecyn adnoddau, ‘Lightening the Load: tackling overweight and obesity’, yn cynnwys ystadegau defnyddiol, mentrau ymarferol, tystiolaeth o effeithiolrwydd, rhestrau gwirio, fframweithiau ac enghreifftiau o arfer da wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys y canllawiau diweddaraf gan NICE. Mae wedi cael ei gymeradwyo’n llawn gan NICE, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Coleg Brenhinol y Nyrsys a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr; ac mae’r Adran Iechyd yn ei gefnogi. Pecyn Adnoddau Gordewdra Sir GaerfyrddinLansiwyd Pecyn Adnoddau Gordewdra Sir Gaerfyrddin, a ddatblygwyd gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Lleol gyda sefydliadau partner, yn cynnwys y BILl, yr Ymddiriedolaeth, y sector gofal sylfaenol a’r sector gwirfoddol, yn 2006. Mae’n helpu i sicrhau bod ymarferwyr iechyd o sefydliadau ledled y sir yn cymryd ymagwedd unedig tuag at reoli pwysau. Pecyn Adnoddau Marchnadoedd Ffermwyr Terfol, Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glanyrafon (RCMA)Diben y pecyn adnoddau hwn yw darparu rhestr o ystyriaethau a chyngor ymarferol i helpu grwpiau neu asiantaethau lleol i lansio marchnadoedd ffermwyr llwyddiannus yn nhrefi a dinasoedd Cymru a helpu i sicrhau eu bod yn tyfu mewn ffordd gynaliadwy. Think Fit! Sefydliad Prydeinig y GalonMae canllaw Think Fit! Sefydliad Prydeinig y Galon yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau yn y gweithle. Pecyn Adnoddau ‘Active for Life’ Sefydliad Prydeinig y GalonNod pecyn adnoddau Active Life yw helpu’r rhai sy’n ymwneud â datblygu rhaglenni gweithgaredd corfforol i bobl hyn o bob oedran a gallu. Cerdded dros IechydMae’r wefan Cerdded dros Iechyd yn rhoi cyngor yn ymwneud â sefydlu cynllun cerdded dros iechyd yn eich ardal leol. Ceir gwybodaeth am hyfforddiant, yswiriant, gwerthuso a deunydd hyrwyddo. Cerddwyr
People and participation.netMae People and Participation.net yn wefan ddefnyddiol sy’n darparu gwybodaeth ymarferol i’r rhai sy’n ceisio cael pobl i gyfranogi. Gall unigolion a sefydliadau gofrestru am ddim a chael mynediad i astudiaethau achos, cynllunydd proses, gwybodaeth am ddulliau cyfranogol, llyfrgell ar-lein, a defnyddio cyfleuster er mwyn holi cwestiynau yn uniongyrchol i’r arbenigwyr. Gwyrddio!Mae’r Sefydliad Datblygu Cymunedol yn gorff cyhoeddus a noddir gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Lloegr gyda sefydliad partner Sefydliad Datblygu Cymunedol (Cymru). Y Sefydliad Datblygu Cymunedol yw prif ffynhonnell arbenigedd a chyflwyno datblygu cymunedol. Coginio yn y GymunedGall y rhithgasgliad hwn o ryseitiau gael ei ddefnyddio gan fentrau bwyd cymunedol fel ffynhonnell o ryseitiau cytbwys o ran maeth, i godi ymwybyddiaeth o fwyta’n iach a chymorth yn y gymuned i ddatblygu eu sgiliau coginio a chynorthwyo newid cadarnhaol i ddeiet. Mae’n dangos y gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd gan fentrau bwyd cymunedol a phartneriaid eraill tra'n rhannu arferion da ac yn ategu llwyddiant y mentrau. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r mentrau canlynol sydd wedi cyfrannu ryseitiau:
Cnoi CilMae cylchlythyr Cnoi Cil yn cynnwys newyddion amserol o fentrau cymunedol, y diweddaraf ar raglen fwyd gydweithredol gymunedol, gwybodaeth am hyfforddiant a chynadleddau, newyddion o rannau eraill o’r DU, adnoddau, cyllid a dyddiadau i’r dyddiadur.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 21/12/2012 |
|
|