![]() |
![]() |
Adnoddau GwerthusoMae Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru wedi datblygu siart llif gwerthuso i gynorthwyo cynllunio mentrau maeth a gweithgaredd corfforol. Mae hyn yn rhoi trosolwg byr o’r broses werthuso. Cafodd ei ddatblygu ar ôl darllen sawl canllaw gwerthuso cynhwysfawr (gweler dolenni defnyddiol). Edrychwch ar yr adnoddau hyn am fwy o wybodaeth gyffredinol am werthuso. Dolenni Defnyddiol
Am fwy o wybodaeth benodol am ddulliau ac offer ar gyfer maeth a gweithgaredd corfforol, mae pecyn cymorth mesur deiet a gweithgaredd corfforol (DAPA) y Cyngor Ymchwil Feddygol yn adnodd cynhwysfawr. Pecyn Cymorth Mesur Deiet a Gweithgaredd Corfforol (DAPA)Mae Pecyn Cymorth DAPA yn adnodd cynhwysfawr o ddulliau ar gyfer ymchwilwyr, myfyrwyr ac ymarferwyr sydd â diddordeb yn mesur deiet a gweithgaredd corfforol. Cafodd ei ddatblygu gan y Cyngor Ymchwil Feddygol. Adolygiad o Ddulliau Asesu Deiet yn y DUMae’r Arsyllfa Gordewdra Genedlaethol wedi cynhyrchu adroddiad sy’n rhoi crynodeb disgrifiadol o adnoddau i fesur yr hyn y mae deiet pobl yn ei gynnwys ac ymddygiad deietegol. Adnoddau Gwerthuso ar gyfer Prosiectau Bwyd Cymunedol Mae’r Awdurdod Datblygu Iechyd (HDA) wedi datblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer cydgysylltwyr mentrau ffrwythau a llysiau cymunedol 5 y dydd. Wrth ddatblygu’r rhaglen hyfforddi, sylwodd yr HDA bod angen cymorth i nodi pecynnau gwerthuso addas a dangosyddion dilysu ar gyfer prosiectau bwyd cymunedol. Gwerthuso Ymyriadau Chwaraeon ac Ymyriadau Gweithgareddau Corfforol Canllawiau i ymarferwyrWedi’i ddatblygu gan ‘Sport England’ i ddarparu canllawiau ar gasglu gwybodaeth am ystod eang o brosiectau sy’n gysylltiedig â chwaraeon. Collection of Resources on Evaluation – CoREThe aim of NOO’s Collection of Resources on Evaluation (CoRE) is to provide information and resources to support practitioners with an interest in the evaluation of interventions related to obesity, overweight, underweight and their determinants. Dulliau GwerthusoArolwg Iechyd Cyffredinol Byr ar Ganlyniadau Meddygol (SF-36)Mesur o statws iechyd cyffredinol yw hwn sydd wedi cael ei brofi’n eang mewn ystod o amodau. Mae wedi cael ei ddatblygu i fesur ansawdd bywyd; mae’n cynnwys 36 o gwestiynau ac mae’n cynhyrchu proffil iechyd 8 graddfa ar weithredu corfforol, poen corfforol, iechyd cyffredinol, egni, gweithredu cymdeithasol, iechyd meddwl a chyfnodau pontio iechyd yn ogystal â mesurau cryno o ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd. Mewn cymhariaeth, mae SF12 yn arolwg byrrach un tudalen ac mae’n cynhyrchu sgôr canlyniadau cryno sy’n ymwneud ag iechyd corfforol ac iechyd meddwl y gellir eu cyfnewid â’r rhai hynny o’r SF-36 o ran poblogaethau cyffredin a phoblogaethau penodol. Mae’n atgynhyrchu’r proffil 8 o graddfa ond gyda llai o lefelau na graddfeydd SF-36 ac mae’n cynhyrchu sgorau llai manwl. O ran astudiaethau o grwpiau mawr, nid yw’r gwahaniaethau hyn mor bwysig, oherwydd caiff cyfyngau hyder ar gyfer cyfartaleddau grŵp mewn sgorau iechyd eu dylanwadu’n bennaf gan faint y sampl. Manteision y ffurflenni hyn yw eu bod yn hawdd i’w gweinyddu a gwnaed llawer o waith ymchwil arnynt sy’n dangos eu bod yn cynhyrchu canlyniadau dibynadwy ar draws ystod o boblogaethau. Fodd bynnag, mae’r data a gynhyrchwyd yn ddata a hunangofnodir a gallai fod lefelau is o gwblhau’r holiadur ymysg rhai grwpiau. Caiff gweinyddwr hyfforddedig sydd â dealltwriaeth o’r broses sgrinio a phrosesu data ei hysbysu oherwydd gall y dadansoddiad fod yn gymhleth yn enwedig pan fo nifer fawr o bobl yn cymryd rhan. Mae gan lawer o sefydliadau academaidd yr arbenigedd a’r cymorth ystadegol angenrheidiol ond mae hwn yn wasanaeth sy’n debygol o achosi costau gweinyddol os yw ar gael. Mae’r ffurflenni hyn yn rhad ac am ddim ac maent ar gael o dan drwydded oddi wrth ‘Medical Outcomes Trust’ (MOT), ‘Health Assessment Lab’ (HAL) a ‘QualityMetric Incorporated’, deiliaid hawlfraint Arolygon Iechyd SF-36 a SF-12. I gael trwydded i ddefnyddio’r ffurflenni, mae’n angenrheidiol cwblhau’r ffurflenni a chyflwyno’r Ffurflen Gais am Drwydded sydd ar gael oddi ar y wefan. Yn ogystal, mae sawl fersiwn ar gael ac mae’n bwysig defnyddio’r offeryn dadansoddi priodol ar gyfer y fersiwn cywir. Mae llyfrau ar gael a fydd yn angenrheidiol i arwain y gwaith o gymhwyso’r offeryn a’i ddadansoddi. Holiadur Gweithgaredd Corfforol Rhyngwladol (IPAQ)Pwrpas Holiaduron Gweithgaredd Corfforol Rhyngwladol (IPAQ) yw darparu set o offerynnau sydd wedi cael eu datblygu’n dda ac y gellir cael eu defnyddio’n rhyngwladol i gael amcangyfrifon cymaradwy o weithgaredd corfforol. Mae dau fersiwn o’r holiadur. Mae’r fersiwn byr yn addas i’w ddefnyddio mewn systemau gwyliadwriaeth cenedlaethol a rhanbarthol ac mae’r fersiwn hir yn darparu gwybodaeth fwy manwl sydd ei hangen yn aml mewn gwaith ymchwil neu at ddibenion gwerthuso. Gellir lawrlwytho’r holiaduron o www.ipaq.ki.se/downloads.htm. Holiadur Parodrwydd ar gyfer Gweithgaredd Corfforol (PAR-Q)Offeryn sgrinio syml yw’r holiadur hwn i nodi unigolion na ddylent gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol heb ofyn i’w meddyg teulu. Mae’r holiadur yn gofyn am ymateb ie/na i gyfres o gwestiynau sy’n ymwneud â risgiau iechyd. Cafodd yr holiadur ei ddatblygu yng Nghanada ac mae wedi cael ei ddefnyddio’n eang. Dyddiadur Bwyd a GweithgareddauDogfen yw’r dyddiadur bwyd a gweithgaredd sy’n caniatáu i bobl gadw cofnod eu hunain o’r bwyd y maent yn ei fwyta a’r lefelau gweithgaredd corfforol dros gyfnod o sawl diwrnod. Yn aml, mae’n ddefnyddiol i gadw cofnod o ddiwrnod yn ystod yr wythnos a diwrnod ar y penwythnos. Gall cadw dyddiadur helpu i godi ymwybyddiaeth unigolion o’u hymddygiad presennol. Mae sampl o ddyddiadur ar gael oddi ar wefan Weightwise Cymdeithas Ddeieteg Prydain. Holiaduron Amlder BwydFel arfer caiff Holiadur Amlder Bwyd (FFQ) ei weinyddu gan unigolion ac mae wedi cael ei gynllunio i fod yn hawdd i'w lenwi. Mae holiaduron FFQ yn cynnwys rhestr o fwydydd neu grwpiau o fwydydd ac ymateb amlder cyfatebol; maent yn aml yn dibynnu ar dybiaethau ynglŷn â maint dognau neu maent yn cynnwys dewis i amcangyfrif meintiau dognau arferol. Mae pob un wedi cael ei gynllunio i gael gwybodaeth am agweddau penodol ar ddeiet a bydd angen iddynt fod yn fanwl ar gyfer yr agwedd neu’r canlyniad penodol hwnnw o’r ymyriad. Gall dadansoddi fod yn gymhleth yn arbennig pan fydd nifer fawr o bobl yn cymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio holiaduron amlder bwyd, lawrlwythwch Cade, J., Thompson, R., Burley, V. a Warm, D. (2001). ‘Development, validation and utilisation of food-frequency questionnaires – a review.’ Public Health Nutrition 5(4), 567–587. Holiadur FACETMae holiadur FACET yn holiadur byr ar ddeiet/agweddau sydd yn mesur faint o ffrwythau a llysiau sy’n cael eu bwyta cyn ac ar ôl ymyriadau cymunedol. Mae gwybodaeth am Offeryn FACET (Offeryn Gwerthuso Pump y Dydd Cymunedol) ar gael gan Ashfield-Watt, P.A.L., Welch, A.A., Godward, S. a Bingham, S.A. (2005). Effaith ymyriad cymunedol peilot ar y ffrwythau a’r llysiau sy’n cael eu bwyta: defnydd o FACET (Offeryn Gwerthuso Pump y dydd Cymunedol). Public Health Nutrition: 10(7), 671–680. Fframwaith Gwerthuso Safonol ar gyfer Ymyriadau Rheoli PwysauMae Arsyllfa Genedlaethol ar Ordewdra Lloegr wedi datblygu fframwaith gwerthuso safonol (SEF) i gefnogi gwerthuso ymyriadau rheoli pwysau mewn modd cyson ac o safon uchel er mwyn cynyddu sail y dystiolaeth. Offeryn casglu data gwerthusoBydd yr offeryn hwn yn cynorthwyo ymarferwyr i gasglu data cryno wedi ei safoni o unrhyw ymyrraeth rheoli pwysau, deiet neu weithgaredd corfforol. Mae’r offeryn yn holiadur ar-lein ac mae wedi ei gynllunio i gasglu data gwerthuso o ymyriadau gan ddefnyddio Fframwaith Gwerthuso Safonau (SEF) Arsyllfa Genedlaethol Gordewdra, ond gellir ei ddefnyddio i gasglu data o unrhyw ymyrraeth rheoli pwysau, deiet neu weithgaredd corfforol. Mae’r holiadur ar-lein yn rhoi cofnod archwilio o’r ymyrraeth. Bydd hefyd yn galluogi rhannu ymarfer a dysgu o ymyriadau eraill a gynhelir ar draws y wlad. Fframwaith Gwerthuso Safonol ar gyfer Ymyriadau Bwydo ar y FronMae’r canllaw hwn yn cefnogi datblygu prosesau gwerthuso syml ond effeithiol ar gyfer ymyriadau bwydo ar y fron. Ei fwriad yw cefnogi’r rheiny sydd heb lawer o brofiad, os o gwbl, o werthuso ac i’w ddefnyddio ar y cyd â’r Fframwaith Gwerthuso Safonol ar gyfer Ymyriadau Rheoli Pwysau a ddatblygwyd gan Arsyllfa Genedlaethol Gordewdra. Cafodd ei ddatblygu gan Arsyllfa Iechyd y Cyhoedd y De Orllewin. Am fwy o wybodaeth ewch i www.healthyweight4children.org.uk. Mae Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol, chwaer sefydliad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn Lloegr, wedi datblygu gwybodaeth am offer i fesur canlyniadau. Gellir defnyddio’r offer hyn i ddangos gwerth gwasanaethau a gyflwynir gan y sector gwirfoddol ac eraill. Mae amrywiaeth o offer a mesurau ar gael ar wefan Cyngor Cenedlaethol Sefydliadau Gwirfoddol sy’n rhoi esboniad o’r ffordd y mae’r offer amrywiol yn gweithio a’r dolenni ar gyfer cael mwy o wybodaeth. Ymarfer Corff Gwyrdd – Canllawiau Pecyn Cymorth Gwerthuso ‘Y Gwasanaeth Iechyd Naturiol’Mae’r Bartneriaeth Ymarfer Corff Gwyrdd (BTCV Cymru, Sustrans Cymru & Groundwork Cymru) wedi datblygu canllawiau gwerthuso a phecyn cymorth sydd wedi ei ddylunio i alluogi gwirfoddolwyr, cyfranogwyr prosiect ac arweinwyr prosiect i werthuso proseictau a rhaglenni yn effeithiol.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 22/11/2011 |
|
|