Physical Activity and Nutrition Networks Wales Physical Activity and Nutrition Networks Wales
Sgipio mordwyaeth
   
  Chwilio'n fwy manwl  |  English

Cymunedau yn Gyntaf

Yn dilyn ymgynghoriad yn 2011, mae rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn mynd trwy newid ac fe’i gelwir bellach yn ‘Rhaglen Trechu Tlodi’. Bydd y rhaglen yn cynnwys grwpiau newydd o ardaloedd a elwir yn glystyrau a bydd yn cynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Disgwylir i’r rhaglen gael ei sefydlu ar ddechrau 2013.

 

Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cynulliad Cymru a lansiwyd yn 2001, sy’n anelu at gynnwys pobl leol yn y gwaith o adfywio’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r Rhaglen yn fenter hirdymor.

Lansiwyd y Rhaglen mewn 142 o ardaloedd ledled Cymru; mae o leiaf un Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, ond mae’r mwyafrif yn y De a’r De Ddwyrain. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno i 46 o ardaloedd eraill sydd wedi cael eu nodi fel ardaloedd sydd ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Y prif gonglfaen ym mhob ardal Cymunedau yn Gyntaf yw partneriaeth leol, wedi’i sefydlu ar lefel gymunedol. Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys aelodau o’r gymuned leol, o’r sector statudol ac o’r sectorau gwirfoddol/busnes.

Y nod yw y dylai Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf weithio gyda darparwyr gwasanaeth lleol (ee yr awdurdod lleol, a’r bwrdd iechyd lleol ac ati) i lunio Cynllun Gweithredu sy’n amlinellu sut y mae’r gymuned yn bwriadu mynd i’r afael â’r problemau sy’n deillio o anfantais ac amddifadedd a sut y byddant yn ymgysylltu â phartneriaid lleol er mwyn gwneud hynny.

Caiff gwaith y Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ei lywio gan Fframwaith Gweledigaeth Cymunedau yn Gyntaf sy’n nodi’r themâu y dylai’r Cynllun Gweithredu Lleol geisio mynd i’r afael â hwy. “Iechyd a lles” yw un o’r themâu allweddol yn y Fframwaith Gweledigaeth ac mae llawer o bartneriaid yn gweithio ar brosiectau sy’n ymwneud â gwella deiet, ymwybyddiaeth o faeth, byw’n iach a gweithgaredd corfforol.

Cyhoeddodd Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, gam nesaf Cymunedau yn Gyntaf, rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ymwneud ag adfywio cymunedau ar 17 Mehefin. Bydd y Gronfa Canlyniadau, sy’n werth o leiaf £25 miliwn dros y tair blynedd nesaf yn rhoi hwb i adfywio cymunedol mewn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru drwy weithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus lleol a thrwy weithio’n agos gyda phobl leol wrth gynllunio gwasanaethau lleol.

Bydd y cynlluniau cyffredinol ar gyfer cam nesaf Cymunedau’n Gyntaf yn canolbwyntio ar ysgogi gwelliannau ymarferol er mwyn mynd i’r afael â thlodi, cyfrannu at fentrau adfywio ehangach a gwella cyflogadwyedd. Mae’r cynlluniau hyn yn dilyn proses ymgynghori eang a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried bod mentrau i wella iechyd a lles, maeth a gweithgaredd corfforol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithio gyda sefydliadau partner i sicrhau eu bod yn creu eu rhaglenni a’u polisïau mewn modd sy’n rhoi blaenoriaeth i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac i weithio gyda Phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf i sicrhau’r canlyniadau a ddymunir.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Communities.First@wales.gsi.gov.uk neu ewch i’r wefan
http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/regeneration/communitiesfirst/?lang=cy.  


Adroddiad Gwerthuso Cymunedau yn Gyntaf

Comisiynodd Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau Llywodraeth Cymru Werthusiad o Ganlyniadau a Phrosesau rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn ystod 2010. Mae adroddiad terfynol cyfunol wedi cael ei lunio.

Nod y Gwerthusiad Canlyniadau oedd rhoi tystiolaeth ar y graddau y mae’r rhaglen wedi cyflawni’r amcanion hanfodol o ran canlyniadau.

Nod y Gwerthusiad Prosesau oedd archwilio addasrwydd cynllun, gweithrediad a chyllid cyfnod 2009-2012 o’r rhaglen wrth ganiatáu i’w nodau a’i hamcanion gael eu bodloni.

Gellir gweld yr adroddiad ar y ddolen ganlynol: http://wales.gov.uk/about/aboutresearch/social/latestresearch/?lang=en.  


Clwb Ffitrwydd Cymunedol

Trwy ymgynghori cymunedol a’r sylw diweddar yn y wasg yn ymwneud â lefelau uchel Gordewdra yn Wrecsam, y teimlad oedd y byddai Parc Caia yn cael budd o Glwb Ffitrwydd Cymunedol lleol. Er bod clybiau eraill yn cael eu cynnal ar gyrion Caia, y teimlad oedd bod y rhain yn eithaf drud.

Mae Cymunedau yn Gyntaf Parc Caia wedi bod yn cynnal Clwb Ffitrwydd Cymunedol ers mis Mehefin 2011. Mae’r Clwb Ffitrwydd yn rhaglen rheoli pwysau 12 wythnos, sydd wedi ei ddylunio ar gyfer canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden. Mae’r rhaglen yn rhad ac yn darparu’r elfen o bwyso a dau weithgaredd yr wythnos.

Mae Cymunedau yn Gyntaf Parc Caia yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn mynd i Stadiwm Chwaraeon Queensway ar fore dydd Llun a bore dydd Mercher. Mae’r grŵp yn cynnwys 9 o fenywod ac ar ôl y 12 wythnos cyntaf, collasant 1 stôn rhyngddynt.

Mae’r 12 wythnos nesaf yn dechrau trwy gyflwyno gweithgareddau gwahanol a’r gobaith yw y bydd yr un mor llwyddiannus.


Dewch i Giniawa gyda Ni

Mae tîm ieuenctid EVAD wedi bod yn gweithio gyda’r tair partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf yn nyffryn Ebbw Fawr yn trefnu 6 digwyddiad yn pontio’r cenedlaethau er mwyn ysgogi cyswllt rhwng y cenedlaethau er budd yr holl gyfranogwyr yn y gymuned ehangach.

Cynhaliwyd 5 digwyddiad “Dewch i Giniawa gyda Ni”:
• 2 yng Nghymunedau yn Gyntaf Gogledd a De Glynebwy
• 2 yng Nghymunedau yn Gyntaf Cwm, Waunlwyd a Fictoria
• 1 yng Nghymunedau yn Gyntaf Garnlydan a Rasa

Roedd y bobl ifanc hefyd yn gallu cael hyfforddiant fel rhan o’r prosiect; dysgodd 18 o bobl ifanc sgiliau coginio sylfaenol a chafodd 15 o bobl ifanc Dystysgrif Hylendid Bwyd. Coginiodd 6 o bobl ifanc o bob ardal bryd i’w gwesteion, oedd yn cynnwys clwb brecwast, te prynhawn neu swper. Coginiodd y bobl ifanc i 20 o oedolion hŷn ym mhob sesiwn a chafodd y bobl ifanc gyfle i siarad â’u gwesteion ac ail-fyw’r hen ddyddiau, a oedd yn galluogi’r bobl ifanc i ddysgu o’u profiadau.

Roedd pob digwyddiad yn llwyddiant mawr, yn chwalu’r rhwystrau a’r camdybiaethau rhwng oedolion hŷn a phobl ifanc; cawsant lythyrau a chardiau yn diolch iddynt, oedd yn dangos eu gwerthfawrogiad i’r bobl ifanc.

Daeth y digwyddiad olaf i ben gydag un digwyddiad mawr gyda’r holl gyfranogwyr yn cael eu gwahodd, yn cynnwys Maer Blaenau Gwent, Mike Bartlet, a’i wyres, Sheridan, sydd yn Faeres. Roedd y digwyddiad yn cynnwys pryd 3 chwrs ac adloniant o’r 1940au ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Mae 2 o’r grwpiau wedi mynegi dymuniad i goginio i’r bobl ifanc a weithredodd ar y prosiect hwn.

Effaith fwyaf y prosiect hwn oedd chwalu’r rhwystrau rhwng y cenedlaethau a chamdybiaethau’r bobl ifanc, sydd wedi arwain at ddymuniad y grŵp i’w wneud yn ddigwyddiad blynyddol.

Ar y cyfan, mae’r prosiect hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae’r bobl ifanc wedi cael canmoliaeth uchel am eu cyflawniadau.

I weld mwy, dilynwch y ddolen hon: http://vimeo.com/24829114.  


Yng Nghynhadledd Cymunedau yn Gyntaf 2009, cynhaliodd Rhwydweithiau weithdy o’r enw “ Rhannu er mwyn Llwyddo: Rhwydweithiau Iechyd y Cyhoedd, Mentrau Iechyd Cymunedol ac Arfer Da”.


Gwobr Ffatri Cadw’n Iach

Mae Strategaeth Bryncynon wedi cael £25,000 i gydnabod ei gwaith rhagorol yn gwella iechyd mewn cymunedau difreintiedig yng Nghwm Cynon.

Curodd Strategaeth Bryncynon dros 400 o sefydliadau ledled y DU i ddod yn un o 10 enillydd Gwobrau IMPACT Glaxo Smith Kline eleni, a gynhelir mewn partneriaeth â’r felin drafod iechyd, Cronfa’r Brenin.

Cafodd y Ffatri Cadw’n Iach ei chanmol am nerth yr arloesi a’r ffyrdd creadigol o wella iechyd y cyhoedd yn y gymuned. Mae’n cyrraedd tua 5,000 o gartrefi’r flwyddyn, mae 70% o’r gymuned yn cael mynediad i wasanaethau, yn cynnwys dosbarthiadau ymarfer corff, cwnsela ar gyfer rhoi’r gorau i smygu, cyngor ar fwyta’n iach a hylendid y geg. Maent yn annog bwyta’n iach trwy dyfu bwyd ffres a’i werthu’n uniongyrchol i bobl sy’n gaeth i’w cartrefi ac rydym yn darparu gwasanaeth gwaith achos sy’n helpu i fynd i’r afael â digartrefedd a gwella mynediad i wasanaethau gofal iechyd.

Mae’r gwobrau – rhaglen cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol flaenllaw Glaxo Smith Kline yn y DU – yn amlygu rôl hanfodol y sector gwirfoddol yn bodloni anghenion iechyd mewn cymunedau difreintiedig ac agored i niwed.


Bwyd, hwyl ac iechyd

Mae Canolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol, Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Penparcau a Gorllewin Aberystwyth, a Thregaron a’r Uplands i gyflwyno cwrs hwyliog ac ymarferol, byr yn archwilio agweddau tuag at fwyd, coginio, bwyta, iechyd a chyflogaeth. Cafodd hwn ei ddyfeisio a’i gyflwyno gan staff y Brifysgol, ond mewn partneriaeth â gweithwyr ieuenctid Cymunedau yn Gyntaf a Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion (Tîm Ataliaeth), gyda menywod ifanc sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, dod yn bobl Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET), ac ati. Cymerodd un ar bymtheg o fenywod ifanc
(12 – 15 oed) ran.

Roedd y sesiynau’n cynnwys trafodaethau ar arferion bwyta (beth, ble, sut, pryd); grwpiau gwahanol o fwydydd; ffyrdd amgen o baratoi a choginio bwyd fel opsiwn iachach; pwyslais ar gydbwysedd yn hytrach na chalorïau / mynd ar ddeiet.

Bob wythnos roedd y sesiynau’n gorffen trwy “eistedd wrth y bwrdd a rhannu amser bwyd”.

Cafodd pob cyfranogwr gofnod wedi ei rwymo o’r cwrs, gyda ryseitiau a gwybodaeth am grwpiau bwyd, ynghyd â Thystysgrif o Bresenoldeb a Chyflawniad. 


I weld rhagor o astudiaethau achos iechyd a lles ymwelwch â gwefan Cymunedau yn Gyntaf.

Ffitrwydd ar Garreg y Drws Castell-nedd Port Talbot

Cymunedau yn Gyntaf Felinfoel Bwyta’n Iach yn y Gymuned

Gwerthusiad Iechyd a Lles Castell-nedd Port Talbot



Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 19/11/2012