![]() |
![]() |
Cynllun Arferion Da Iechyd y CyhoeddA fyddech chi yn elwa ar gael cymorth i ddatblygu eich menter tuag at arfer da? A hoffech chi godi proffil eich gwaith a chael cydnabyddiaeth am eich cyflawniadau? Ydych chi’n credu bod manteision i rannu eich arferion a dysgu o arferion pobl eraill – ein bod yn llwyddo wrth rannu? Mae Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru mewn cydweithrediad â Chyswllt Iechyd Rhywiol Cymru Gyfan a Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan bellach yn derbyn cyflwyniadau ar gyfer Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd. Mae Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd yn ddull sy’n cefnogi pob ymarferydd, sefydliad a sector sy’n gysylltiedig â mentrau hybu iechyd, gwella iechyd a datblygu iechyd cymunedol ym meysydd maeth a gweithgaredd corfforol, hybu iechyd meddwl a iechyd rhywiol. Mae’r cynllun yn cynnwys cronfa ddata arfer da, marc safon, dyfarniadau a darpariaeth cymorth. Mae’n gwobrwyo arfer da a bydd yn ddull systematig o rannu gwybodaeth am fentrau ar y cynllun er mwyn atal dyblygu, gwella dysgu a galluogi penderfyniadau ar yr hyn y mae mentrau yn ei fabwysiau neu’n ei ddatblygu. Cafodd y cynllun ei lansio mewn gweithdai rhanbarthol ym mis Hydref a Thachwedd 2010 yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn gynharach yn y flwyddyn. Mae cyflwyniadau’r gweithdai ar gael i’w lawrlwytho: Adroddiad gweithdai rhanbarthol Mae buddion sylweddol i gyfranogwyr yn cynnwys: Taflen Ffeithio:Ymgysylltu a Rhanddeillaid a Buddiolwyr Bydd Cronfa Ddata Arfer Da Iechyd y Cyhoedd ar gael o fis Ionawr 2011 a bydd yn cynnwys yr holl fentrau a gyflwynwyd i’r cynllun.
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 17/04/2013 |
|
|